Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (19)v3 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud)
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 mins)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty: Y Gyllideb Ddrafft (45 munud) |
4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Hygyrchedd i gyfreithiau Cymru a datblygu llyfr statud i Gymru (30 munud) |
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Rhaglenni Ewropeaidd yn y dyfodol yng Nghymru (30 munud) |
6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil Senedd y DU ynghylch Lleoliaeth (15 munud) NDM4808 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ogystal â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642, NNDM4722 ac NNDM4785, y darpariaethau ychwanegol hynny a gyflwynwyd i’r Bil Lleoliaeth ynghylch Rhagdybiaethau Cynllunio Gorchmynion Prynu Gorfodol, Sail 16 Atodlen 2 Deddf Tai 1985 ac Asedau ag iddynt Werth Cymunedol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Dogfennau Ategol I weld copi o’r Bil Lleoliaeth: |
7. Dadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy (60 munud) NDM4813 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud ar ddatblygu cynaliadwy yn 2010-11, fel y nodir yn Adroddiad Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 22 Medi 2011. Mae copi o'r Adroddiad ar gael yn: Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn mynegi pryder nad yw Llywodraeth Cymru byth wedi prif ffrydio datblygu cynaliadwy yn llawn yn y ffordd mae’n gweithio ac yn datblygu polisïau. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu gweledigaeth strategol well o sut caiff datblygu cynaliadwy ei wreiddio ar draws strategaethau, polisïau a chynlluniau unigol a sut maent yn cyfuno i gyfrannu at gynnydd mesuradwy yn erbyn y Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy. Gellir gweld “Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy 2011” drwy ddilyn y linc canlynol: http://wales.gov.uk/topics/statistics/headlines/sustaindev/110830/?skip=1&lang=cy Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno camau cywiro ar frys i adfer y 22 Dangosydd Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2011 sydd wedi dirywio neu nad ydynt wedi gwella. Gellir gweld “Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy 2011” drwy ddilyn y linc canlynol: http://wales.gov.uk/topics/statistics/headlines/sustaindev/110830/?skip=1&lang=cy Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n llawn yr argymhellion a wnaethpwyd yn yr Adroddiad Blynyddol gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy a Cynnal Cymru. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod y ddogfen “Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy 2011" yn dangos bod y Llywodraeth wedi symud ymlaen gydag oddeutu hanner ei dangosyddion ond yn gresynu ei bod yn dangos y bu dirywiad clir mewn dangosyddion ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr a newidiadau tymor byr mewn poblogaeth adar. Gellir gweld “Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy 2011” drwy ddilyn y linc canlynol: http://wales.gov.uk/topics/statistics/headlines/sustaindev/110830/?skip=1&lang=cy Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod yn rhaid i ddatblygu cynaliadwy gynnwys lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o ffynonellau domestig, ac yn galw am gynnydd yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y Llywodraeth i gomisiynu archwiliad annibynnol o’i pholisïau i hybu datblygu cynaliadwy. Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud gan awdurdodau lleol tuag at dargedau ailgylchu. |
Cyfnod pleidleisio |
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 Dydd Mercher, 5 Hydref 2011